Tag: job ad

Mae Machspace eisiau penodi: Gweithiwr Gwych Dros Dro! (Gwaith gweinyddol, rheoli’r gofod, codi arian)

[ English ]

Swydd gyda chontract dros dro yw hon, a fydd yn para am ddau fis i gychwyn, gyda’r posibilrwydd o ymestyn y contract. Y dyddiad dechrau – cyn gynted â phosibl.

Mae gennyn ni 27 awr o waith ar gael i gychwyn. Bydd angen cwblhau’r oriau hyn o fewn y ddau fis, ond bydd modd eu gwneud yn gynt os ydych chi ar gael. Mae mwy o frys i wneud rhai o’r tasgau, a bydd angen cwblhau’r rheini yn pythefnos cyntaf ar ôl dechrau. Mae’r oriau gweithio’n hyblyg.

Mae gennyn ni gyllideb i dalu £27 yr awr, gyda mymryn o hyblygrwydd i drafod. 

A chithau’n gontractwr llawrydd, byddwch chi’n gyfrifol am ein hanfonebu am eich oriau ac am eich trefniadau treth eich hun.

Rydyn ni’n chwilio am rywun sydd â phrofiad o wneud y canlynol:

  • Gwaith gweinyddol ar Google Drive
  • Codi arian i sefydliadau cymunedol
  • Cyfathrebu dros y ffôn a thrwy e-bost a negeseuon uniongyrchol wrth wneud swydd
  • Sgiliau cyfathrebu wyneb yn wyneb da wrth wneud swydd
  • Rheoli eich amserlen eich hun yn rhagweithiol

Bydd y swydd yn golygu gwneud y canlynol (yn ogystal â phethau eraill):

  • Ysgrifennu cais am gyllid (gyda chymorth)
  • Trefnu ffeiliau ar Google Drive
  • Recriwtio a rheoli crefftwyr ar gyfer gwneud mân oruchwylion yn Machspace
  • Argraffu a gosod labeli ac arwyddion
  • Creu ffurflenni monitro
  • Delio â chontractau llogi gofod 

Cefndir Machspace: Gofod gwneud ydyn ni yng nghanol tref Machynlleth ym Mhowys.

Adnodd i’r gymuned yw gofod gwneud, yn yr un categori â llyfrgell neu ganolfan hamdden. Mae’n adeilad sy’n llawn offer i’r aelodau ei ddefnyddio – argraffwyr 3D, peiriannau gwnïo, driliau a llifiau, offer sodro, torwyr laser, fframiau gwau ac ati.

Mae bwrdd y cyfarwyddwyr a’r gwirfoddolwyr yn amrywiol o ran rhywedd ac anableddau, ac mae ein staff yn cyfathrebu gan mwyaf ar Whatsapp.

I gael rhagor o wybodaeth am ofodau gwneud, ewch i wefan Hackspace Foundation.

I wneud cais, anfonwch 200-300 gair, neu fideo byr, yn rhoi gwybod i ni am eich profiad a pham eich bod chi’n addas i’r swydd, a hynny i hello@machspace.org.

Y dyddiad cau: 1 Gorffennaf 2024

Y lleoliad: Hybrid – Machynlleth/Gweithio o bell

Machspace are seeking a: SuperTemp! (Admin, space management, fundraising)

[ Cymraeg ]

This is a temporary contract role to last up to 2 months initially with the possibility of extending the contract. Start date is ASAP.

We have 27 hours of work available initially, which will need to be done within 2 months though this can be done sooner if you have the availability. Some of the jobs are more urgent and will need to be tackled within the first 2 weeks of starting. Working hours are flexible.

We have a budget of £27 per hour with a little room for negotiation.

As a freelance contractor you would be responsible for invoicing us your hours and your own tax return.

We are looking for someone with experience in:

  • Admin on Google Drive
  • Fundraising for community organisations
  • Communicating via phone, email and direct message in work role
  • Good in-person communication skills in a work role
  • Proactively managing your own schedule

The role will involve (but is not limited to):

  • Writing a funding application (with help)
  • Organising files on Google Drive
  • Recruiting and managing tradespeople for small jobs at Machspace
  • Printing and installing labels and signage
  • Creating monitoring forms
  • Dealing with space rental contracts 

About Machspace: We are a makerspace in the centre of the town of Machynlleth in Powys, Wales.

A makerspace is a community resource, in the same category as a library or leisure centre. It’s a building containing a lot of equipment for members to come and use – 3D printers, sewing machines, drills and saws, soldering equipment, laser cutters, looms, etc.

Our director board and base of volunteers is gender- and disability-diverse and we do most of our staff communication on WhatsApp.

To find out more about makerspaces, visit the Hackspace Foundation.

To apply, please send 200-300 words, or a short video, letting us know about your experience and suitability for the role, to hello@machspace.org.

Closing date: 1st July 2024
Location: Hybrid – Machynlleth/Remote